Am rolau’r aelod Lleyg

Rydym yn chwilio am ddau leygwr sydd â phrofiad helaeth o weithredu ar lefel y Bwrdd, gan arwain at newid trawsnewidiol ac arddangos cymysgedd o arbenigedd llywodraethiant, gweledigaeth strategol a chymwyseddau arbenigol ar gyfer ymgymryd â rôl Ymddiriedolwr. Mae sgiliau dymunol yn cynnwys arbenigedd cyllid a chyfreithiol/profiad rheoleiddiol lefel uwch.

Gall ymgeiswyr fyw neu weithio yn unrhyw un o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei aelodaeth yn adlewyrchu amrywiaeth y cyhoedd y mae'n ei wasanaethu a'r gweithwyr proffesiynol y mae'n eu rheoleiddio. Rydym yn gwybod y bydd cael lleisiau, safbwyntiau, gwybodaeth a mewnwelediad gwahanol yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell.

Nid yw aelodaeth bresennol y Cyngor yn adlewyrchu amrywiaeth cofrestr yr NMC mewn perthynas ag ethnigrwydd. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd cywir o bob cefndir, yn enwedig y rhai o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Pe byddai angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i gyflawni'r rôl, rydym yn hapus i ddarparu'r gefnogaeth a'r cymorth sydd ei angen arnoch.

Yn unol â'r ymrwymiadau hyn, bydd y Panel Dewis yn cymryd dull gweithredu cadarnhaol. Mae hyn yn golygu, pan fo'r Panel Dewis yn fodlon bod dau neu fwy o ymgeiswyr o'r un teilyngdod ar gyfer yr un rôl, gan ystyried aelodaeth bresennol y Cyngor, gall benderfynu argymell ymgeisydd sydd â nodwedd warchodedig

Cymhwysedd

Gwrthdaro buddiannau

Bydd angen i chi wirio eich bod yn gymwys i gael eich penodi ac nad ydych wedi'ch datgymhwyso. Mae'r seiliau dros ddatgymhwyso rhag penodi i'r Cyngor i'w gweld yn y ffurflen gais(opens in new tab).

Mae’n rhaid i chi beidio â bod, nac erioed wedi bod, yn nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio cofrestredig ac mae’n rhaid i chi allu cadarnhau nad oes gennych gymwysterau a fyddai'n eich galluogi i wneud cais i fod yn nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio cofrestredig.

Fel rhan o'ch cais gofynnir i chi ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau neu deyrngarwch gwirioneddol neu bosibl y gellid ei ystyried yn berthnasol i'r NMC. Darllenwch y canllawiau yma(opens in new tab).

Asesiad o gymwyseddau

Byddwn yn defnyddio'r cymwyseddau canlynol i asesu ymgeiswyr.

Bydd y rhain yn eich helpu i benderfynu a oes gennych y rhinweddau cywir i ymuno â'n Cyngor.

Bydd angen i chi esbonio yn eich datganiad ategol sut mae eich arbenigedd, profiad, gwybodaeth a sgiliau yn cyd-fynd â phob un o'r cymwyseddau .

Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y cymwyseddau ar bob cam o'r broses ddewis.

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni'r holl gymwyseddau perthnasol.

Sylwch y gallwch ddarparu tystiolaeth o'r cymwyseddau hyn o unrhyw agwedd ar eich bywyd, profiadau a gweithgareddau, nid dim ond trwy eich rolau proffesiynol neu waith.

Nurse with patient

Cymwyseddau hanfodol:

  1. Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, ddiogelu’r cyhoedd trwy reoleiddio proffesiynol.
  2. Gwerthfawrogiad clir o'r rôl anweithredol, a sut y dylid dal swyddogion gweithredol i gyfrif trwy her adeiladol.
  3. Y gallu i gyfrannu at sefydliad ar lefel strategol, gan ddangos sgiliau dadansoddol a barn gadarn.
  4. Y gallu i ddeall a chyfrannu at y materion sefydliadol a busnes y mae'r Cyngor yn delio â nhw.
  5. Y gallu i weithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm, parchu a gwrando ar eraill, gan ennill parch cydweithwyr, a chyfrannu'n adeiladol at brosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd.
  6. Dealltwriaeth o rôl ymddiriedolwr elusen, a gallu i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol.
  7. Ymrwymiad personol at lywodraethiant da a chynnal egwyddorion cydnabyddedig bywyd cyhoeddus.

Cymhwysedd dymunol ar gyfer un rôl leyg yn unig:

  1. arbenigedd cyllid a chyfreithiol/profiad rheoileiddiol lefel uwch