Ynglŷn â rolau aelod gweithiwr cofrestredig

Rydym yn chwilio am ddau weithiwr proffesiynol sydd ar ein Cofrestr ar hyn o bryd sydd â phrofiad helaeth o weithredu ar lefel y Bwrdd, ac â'r profiad, yr wybodaeth, y sgiliau a'r annibyniaeth angenrheidiol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol. Yn y rownd recriwtio hon rydym yn edrych yn benodol i benodi un fydwraig ac un nyrs.

Gall ymgeiswyr fyw neu weithio yn unrhyw un o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei aelodaeth yn adlewyrchu amrywiaeth y cyhoedd y mae'n ei wasanaethu a'r gweithwyr proffesiynol y mae'n eu rheoleiddio. Rydym yn gwybod y bydd cael lleisiau, safbwyntiau, gwybodaeth a mewnwelediad gwahanol yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell.

Nid yw aelodaeth bresennol y Cyngor yn adlewyrchu amrywiaeth cofrestr yr NMC mewn perthynas ag ethnigrwydd. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd cywir o bob cefndir, yn enwedig y rhai o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Pe byddai angen unrhyw help neu addasiadau arnoch i gyflawni'r rôl, rydym yn hapus i ddarparu'r gefnogaeth a'r cymorth sydd ei angen arnoch.

Yn unol â'r ymrwymiadau hyn, bydd y Panel Dewis yn cymryd dull gweithredu cadarnhaol. Mae hyn yn golygu, pan fo'r Panel Dewis yn fodlon bod dau neu fwy o ymgeiswyr o'r un teilyngdod ar gyfer yr un rôl, gan ystyried aelodaeth bresennol y Cyngor, gall benderfynu argymell ymgeisydd sydd â nodwedd warchodedig.

Cymhwysedd

Gwrthdaro buddiannau

Bydd angen i chi wirio eich bod yn gymwys i gael eich penodi ac nad ydych wedi'ch datgymhwyso. Mae'r seiliau dros ddatgymhwyso rhag penodi i'r Cyngor i'w gweld yn y ffurflen gais.

Mae’n rhaid fod gennych gofrestriad cyfredol â'r NMC heb unrhyw gyfyngiad ar eich ymarfer a bod yn barod i gynnal eich cofrestriad wrth wasanaethu ar y Cyngor, gan gynnwys ailddilysu yn ôl yr angen.

Os bydd eich cofrestriad â'r NMC yn dod i ben ar unrhyw adeg yn ystod eich tymor yn y swydd, ni fyddwch bellach yn gallu parhau fel aelod o'r Cyngor. Wrth ystyried a ddylid gwneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi ymrwymo i gynnal eich cofrestriad trwy gydol tymor llawn eich penodiad.

Fel rhan o'ch cais gofynnir i chi ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau neu deyrngarwch gwirioneddol neu bosibl y gellid ei ystyried yn berthnasol i'r NMC. Darllenwch y canllawiau yma(opens in new tab).

Asesiad o gymwyseddau

Byddwn yn defnyddio'r cymwyseddau canlynol i asesu ymgeiswyr.

Bydd y rhain yn eich helpu i benderfynu a oes gennych y rhinweddau cywir i ymuno â'n Cyngor.

Bydd angen i chi esbonio yn eich datganiad ategol sut mae eich arbenigedd, profiad, gwybodaeth a sgiliau yn cyd-fynd â phob un o'r cymwyseddau .

Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y cymwyseddau ar bob cam o'r broses ddewis.

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni'r holl gymwyseddau perthnasol.

Sylwch y gallwch ddarparu tystiolaeth o'r cymwyseddau hyn o unrhyw agwedd ar eich bywyd, profiadau a gweithgareddau, nid dim ond trwy eich rolau proffesiynol neu waith.

Nurse with patient

Cymwyseddau hanfodol:

  1. Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, ddiogelu’r cyhoedd trwy reoleiddio proffesiynol.
  2. Gwerthfawrogiad clir o'r rôl anweithredol, a sut y dylid dal swyddogion gweithredol i gyfrif trwy her adeiladol.
  3. Y gallu i gyfrannu at sefydliad ar lefel strategol, gan ddangos sgiliau dadansoddol a barn gadarn.
  4. Y gallu i ddeall a chyfrannu at y materion sefydliadol a busnes y mae'r Cyngor yn delio â nhw.
  5. Y gallu i weithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm, parchu a gwrando ar eraill, gan ennill parch cydweithwyr, a chyfrannu'n adeiladol at brosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd.
  6. Dealltwriaeth o rôl ymddiriedolwr elusen, a gallu i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol.
  7. Ymrwymiad personol at lywodraethiant da a chynnal egwyddorion cydnabyddedig bywyd cyhoeddus.