Ein gwerthoedd a’n hymddygiad

Yn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae ein pum gwerth craidd – uniondeb, tegwch, parch, cydraddoldeb ac effeithiolrwydd – yn mynegi pwy ydym ni a phwy rydym yn ymdrechu i fod. Maen nhw’n llywio sut rydym yn gwneud penderfyniadau, yn trin ein gilydd ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau fel rheoleiddiwr modern ac annibynnol.

Rydym wedi cydgyfeirio’r rhain i’n snodau strategol.

Uniondeb

  • Rydym yn gwneud yr hyn sy'n iawn, yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd, ac yn cadw ein haddewidion.

Tegwch

  • Rydym yn trin pawb yn gyson, yn esbonio ein penderfyniadau yn glir, ac yn gweithredu heb ffafr.

Parch

  • Rydym yn dangos urddas, gofal a chwrteisi, gan feithrin diwylliant cadarnhaol, cynhwysol i bawb.

Cydraddoldeb

  • Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol lle gall pawb ffynnu, beth bynnag y bo'u cefndir neu eu nodweddion.

Effeithiolrwydd

  • Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn defnyddio amser ac adnoddau yn ddoeth, ac yn parhau i ddysgu a gwella.
Staff meet in corridor

Gyda'i gilydd, mae'r gwerthoedd hyn yn ein helpu i ddiogelu’r cyhoedd a chefnogi'r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio, gan adeiladu NMC cryfach ar gyfer heddiw a'r dyfodol.