Amdanom ni
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer nyrsys a bydwragedd yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr.
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) yn goruchwylio ein gwaith ac yn adolygu ein perfformiad bob blwyddyn. Rydym hefyd yn Elusen sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr (1091434) ac yn yr Alban â'r Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban (OSCR) (SC038362).
Ein rôl
Ein rôl yw diogelu'r cyhoedd a chynnal hyder yn y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth ac rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau bod pob nyrs gofrestredig, bydwraig neu gydymaith nyrsio wedi elwa o addysg effeithiol, ac yn bodloni safonau ymddygiad ac ymarfer clir, er budd y cyhoedd.
Mae gennym ddyletswydd i ymchwilio i bryderon ac i gymryd camau i amddiffyn y cyhoedd yn yr achosion cymharol brin lle mae angen i ni roi terfyn neu gyfyngu ar hawl nyrs neu fydwraig broffesiynol i ymarfer.
Ein cyfrifoldebau rheoleiddiol yw i:
- Gynnal y Gofrestr o nyrsys a bydwragedd sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer cofrestru yn y DU, a chymdeithion nyrsio sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer cofrestru yn Lloegr
- Asesu sgiliau iaith a chymhwysedd ceisiadau tramor
- Gosod y gofynion ar gyfer yr addysg broffesiynol sy'n cynorthwyo pobl i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer mynediad i'n Cofrestr neu anodiad arni
- Llunio arfer y gweithwyr proffesiynol ar ein cofrestr trwy ddatblygu a hyrwyddo safonau, gan gynnwys ein Cod, a hyrwyddo dysgu gydol oes trwy Ailddilysu bob tair blynedd
- Ymchwilio ac, os oes angen, cymryd camau pan fo pryderon difrifol yn cael eu codi ynghylch addasrwydd nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio i ymarfer.
Fel y rheoleiddiwr annibynnol mwyaf yn Ewrop o fwy na 868,000 o weithwyr proffesiynol nyrsio a bydwreigiaeth, mae gennym rôl hanfodol i'w chwarae wrth amddiffyn y cyhoedd a chynnal hyder yn y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth.
Rydym yn gwneud hyn trwy osod a hyrwyddo safonau addysgol a phroffesiynol uchel ar gyfer pob nyrs a bydwraig gofrestredig yn awr ac yn y dyfodol yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr.
Rydym hefyd yn sicrhau bod pob nyrs, bydwraig a chydymaith nyrsio ar ein Cofrestr yn bodloni safonau ymddygiad ac ymarfer clir, a thrwy hynny yn ddiogelu'r cyhoedd ac enw da ein proffesiynau.
Mae gennym ddyletswydd i ymchwilio i bryderon ac i gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd yn yr achosion cymharol brin lle mae angen i ni roi terfyn neu gyfyngu ar hawl nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio i ymarfer.
Rydym yn adeiladu NMC newydd gydag Uniondeb, Tegwch, Parch, Cydraddoldeb ac Effeithiolrwydd wrth ei graidd.
Rydym yn benderfynol o wella a moderneiddio ein diwylliant a'n ffyrdd o weithio. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyhoedd a'r gweithwyr proffesiynol yn teimlo’n hyderus yn ein gwaith.