Sut i ymgeisio
Rydym wedi cyflogi Hunter Healthcare i gefnogi'r ymgyrch recriwtio hon. Er mwyn ymgeisio defnyddiwch y ffurflen isod.
Am sgwrs gychwynnol am rôl yr aelod Lleyg cysylltwch â Jenny Adrian ar 07939 250362 neu drwy e-bost:
Am sgwrs gychwynnol am y rôl Gweithwyr Cofrestredig cysylltwch â Jackson Wilson ar 07432 414998 neu drwy e-bost:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 hanner dydd ar 2 Hydref 2026.
Mae'n ddrwg gennym ond ni fyddwn yn gallu ystyried ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn talu costau teithio a llety rhesymol. Byddwn yn darparu unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer teithio a llety i ymgeiswyr sy'n feichiog neu sydd ag anabledd dros dro neu barhaol.