Y rôlau
Rydym yn chwilio am ddau berson dawnus o safon uchel:
- gweithiwr proffesiynol sydd ar ein cofrestr ar hyn o bryd, sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru; a
- person lleyg â chymhwyster ariannol gyda phrofiad archwilio ar lefel bwrdd/uwch a phrofiad busnes/rheoli uwch a all gadeirio ein Pwyllgor Archwilio, sydd hefyd yn gallu dod â phrofiad strategol ac yn gallu ychwanegu gwerth wrth i’r NMC barhau i weithio’n galed i symud y llwyth achosion addasrwydd i ymarfer yn ei flaen yn ddiogel a chreu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol i bawb sy’n gweithio yn yr NMC.
Gwrthdaro Buddiannau
Fel rhan o’ch cais gofynnir i chi ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau neu deyrngarwch gwirioneddol neu bosibl y gellid ei ystyried yn berthnasol i’r NMC. Darllenwch y canllawiau yma.
Cymhwysedd
Bydd angen i chi wirio a ydych yn gymwys i gael eich penodi ac nad ydych wedi'ch gwahardd. Gellir dod o hyd i'r rhesymau dros wahardd rhag penodi i'r Cyngor ar y ffurflen wybodaeth.
Aelod Cofrestredig o'r Cyngor:
- Rhaid i chi fyw neu weithio yng Nghymru, a dal cofrestriad cyfredol gyda'r NMC heb unrhyw gyfyngiad ar eich ymarfer a bod yn fodlon cynnal eich cofrestriad tra'n gwasanaethu ar y Cyngor, gan gynnwys ail-ddilysu yn ôl yr angen.
- Os daw eich cofrestriad gyda’r NMC i ben ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod yn y swydd, ni fyddwch yn gallu parhau fel aelod o’r Cyngor mwyach. Wrth ystyried a ydych am wneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi felly ymrwymo i gynnal eich cofrestriad drwy gydol tymor llawn eich penodiad.
Aelod lleyg o'r Cyngor:
- Rhaid i chi fod â chymwysterau ariannol gyda phrofiad archwilio ar lefel bwrdd/uwch a phrofiad busnes/rheoli uwch. Bydd angen i chi feddu ar y sgiliau a'r galluoedd i gadeirio ein Pwyllgor Archwilio.
- Ni ddylech fod, nac erioed wedi bod yn nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio cofrestredig a rhaid i chi allu cadarnhau nad oes gennych gymwysterau a fyddai'n eich galluogi i wneud cais i fod yn nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio cofrestredig.
Asesiad o gymwyseddau
Byddwn yn defnyddio'r cymwyseddau canlynol i asesu ymgeiswyr.
Bydd y rhain yn eich helpu i benderfynu a oes gennych y rhinweddau cywir i ymuno â'n Cyngor.
Bydd angen i chi esbonio yn eich datganiad ategol sut mae eich arbenigedd, profiad, gwybodaeth, a sgiliau yn cyfateb i bob un o'r cymwyseddau (gan gynnwys y cymhwysedd hanfodol ar gyfer ymgeiswyr lleyg yn unig).
Byddwn yn asesu eich cais yn ôl y cymwyseddau ar bob cam o'r broses ddethol.
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni'r holl gymwyseddau isod. Sylwch y gallwch ddarparu tystiolaeth o'r cymwyseddau hyn o unrhyw agwedd ar eich bywyd, profiadau a gweithgareddau, nid dim ond trwy eich rolau proffesiynol neu waith.
- Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, ddiogelu’r cyhoedd trwy reoleiddio proffesiynol.
- Gwerthfawrogiad clir o'r rôl anweithredol, a sut y dylid dal swyddogion gweithredol i gyfrif drwy her adeiladol.
- Y gallu i gyfrannu at sefydliad ar lefel strategol, gan ddangos sgiliau dadansoddi a barn gadarn.
- Y gallu i ddeall a chyfrannu at y materion trefniadol a busnes y mae'r Cyngor yn delio â nhw.
- Y gallu i weithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm, gan barchu a gwrando ar eraill, ennill parch cydweithwyr, a chyfrannu'n adeiladol at brosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd.
- Dealltwriaeth o rôl ymddiriedolwr elusen, a'r gallu i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol.
- Ymrwymiad personol i lywodraethu da a chynnal egwyddorion cydnabyddedig bywyd cyhoeddus.
Cymhwysedd hanfodol ar gyfer ymgeiswyr lleyg yn unig:
Cymhwyster ariannol gyda phrofiad archwilio ar lefel bwrdd/uwch a phrofiad busnes/rheoli uwch.