Amdanom ni
Rydym yn gorff cyhoeddus statudol sy’n atebol i’r Senedd drwy’r Cyfrin Gyngor.
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) yn goruchwylio ein gwaith ac yn adolygu ein perfformiad bob blwyddyn. Rydym hefyd yn Elusen sydd wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr (1091434) ac yn yr Alban gyda Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban (OSCR) (SC038362).
Ein rôl
Mae ein hamcanion statudol, sydd hefyd yn amcanion elusennol, wedi'u nodi yng Ngorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (fel y'i diwygiwyd).
Ein hamcan trosfwaol yw diogelu’r cyhoedd drwy:
- diogelu, hyrwyddo a chynnal iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd;
- hyrwyddo a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth; a
- hyrwyddo a chynnal safonau ac ymddygiad proffesiynol priodol ar gyfer aelodau'r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth.
Sut rydym yn rheoleiddio
Ein rôl graidd yw rheoleiddio. Yn gyntaf, rydym yn hyrwyddo safonau proffesiynol uchel ar gyfer nyrsys a bydwragedd ledled y DU, a chymdeithion nyrsio yn Lloegr. Yn ail, rydym yn cynnal y gofrestr o weithwyr proffesiynol sy'n gymwys i ymarfer. Yn drydydd, rydym yn ymchwilio i bryderon am nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio – rhywbeth sy’n effeithio ar lai nag un y cant o weithwyr proffesiynol bob blwyddyn. Rydym yn credu mewn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol fynd i’r afael â phryderon, ond byddwn bob amser yn gweithredu pan fo angen.
Er mwyn rheoleiddio'n dda, rydym yn cefnogi ein proffesiynau a'r cyhoedd. Rydym yn creu adnoddau a chanllawiau sy’n ddefnyddiol drwy gydol gyrfaoedd pobl, gan eu helpu i gyflawni ein safonau ymarferol a mynd i’r afael â heriau newydd. Rydym hefyd yn cefnogi pobl sy’n ymwneud â’n hymchwiliadau, ac rydym yn cynyddu ein hamlygrwydd fel bod pobl yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys a’u grymuso i lunio ein gwaith.
Mae rheoleiddio a chefnogi ein proffesiynau yn ein galluogi i ddylanwadu ar iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn rhannu gwybodaeth o'n gweithgareddau rheoleiddio ac yn gweithio gyda'n partneriaid i gefnogi cynllunio'r gweithlu a gwneud penderfyniadau ar draws y sector. Rydym yn defnyddio ein llais i godi llais dros amgylchedd gwaith iach a chynhwysol ar gyfer ein proffesiynau.