Amdanom ni
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyllideb o £1.7bn ac mae'n cyflogi tua 14,700 o bobl, gan ein gwneud yn un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Rydym yn darparu gofal y GIG i boblogaeth o tua 390,000 ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau trydyddol i gleifion ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys llosgiadau a phlastigau, llawdriniaeth arennol, llawdriniaeth ar y galon a gofal newyddenedigol arbenigol.
Mae gennym dri ysbyty acíwt mawr – Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, ac rydym yn darparu gofal cymunedol ac iechyd meddwl, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau gofal sylfaenol
Rydym hefyd wedi sefydlu Cydbwyllgor Rhanbarthol De-orllewin Cymru (RJC) gyda BIP Hywel Dda i ddarparu arweinyddiaeth ar y cyd ar gyfer cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau ar draws rhanbarth ehangach de-orllewin Cymru.
Mae ein gweledigaeth strategol yn glir: Bae Abertawe iachach lle mae unigolion yn mwynhau bywydau hirach, hapusach a mwy annibynnol, gyda mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rydym wedi ymrwymo nid yn unig i drin salwch, ond i gefnogi lles pobl drwy gydol eu bywydau.
Drwy weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid, rydym yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, grymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus, a meithrin amgylcheddau lle gall pawb ffynnu'n gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.