Croeso

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ‘n Cyngor

Ni yw’r rheolydd annibynnol ar gyfer mwy na 808,000 o nyrsys a bydwragedd yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr.

Gan weithio ar ran y cyhoedd, rydym am gefnogi gweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth proffesiynol i ddarparu'r gofal rydym i gyd ei eisiau – diogel, effeithiol a charedig. Mae hwn yn gyfle i chi chwarae rhan bwysig wrth wneud gwahaniaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU.

Fel Cadeirydd, rwyf am i'r Cyngor adlewyrchu ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth a bod yn ymwybodol o anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio. Rydym yn awyddus i glywed gan leygwyr a gweithwyr proffesiynol ar ein cofrestr sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd cywir o gefndiroedd, profiad a chefndir amrywiol.

Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein Strategaeth nesaf ac at ddiwygiadau'r llywodraeth a fydd yn trawsnewid sut rydym yn gweithio, gan roi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd i ni gyflawni'n fwy effeithiol ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys ein Cyngor yn newid i gynnwys cydweithwyr Gweithredol, yn ogystal ag anweithredol, a dod yn fwy atebol i'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Rydym yn chwilio am ddau berson dawnus o safon uchel:

  • gweithiwr proffesiynol sydd ar ein cofrestr ar hyn o bryd, sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru; a
  • person lleyg â chymhwyster ariannol gyda phrofiad archwilio ar lefel bwrdd/uwch a phrofiad busnes/rheoli uwch a all gadeirio ein Pwyllgor Archwilio, sydd hefyd yn gallu dod â phrofiad strategol ac yn gallu ychwanegu gwerth wrth i’r NMC barhau i weithio’n galed i symud y llwyth achosion addasrwydd i ymarfer yn ei flaen yn ddiogel a chreu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol i bawb sy’n gweithio yn yr NMC.

Byddwch yn ymuno â Chyngor blaengar, llawn cymhelliant, sy'n unedig yn ein huchelgais i wneud ein gorau dros y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu a'r gweithwyr proffesiynol a reoleiddir gennym, mewn cydweithrediad â'n tîm Gweithredol. Mae ein gwerthoedd – i fod yn deg, yn garedig, yn gydweithredol, ac yn uchelgeisiol – ynghyd â’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – yn sail i bopeth a wnawn.

Os ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd ac yn meddu ar y rhinweddau, yr angerdd a'r ymrwymiad sydd eu hangen arnom i gyfrannu at ein gwaith, rwy'n gobeithio y byddwch am ymuno â ni.

Sir David Warren

Syr David Warren
Cadeirydd
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth